Y Clwb, Llansanffraid Glan Conwy
Mae Y Clwb yn dafarn cymunedol yn Llansanffraid Glan Conwy sy'n sefyll ar dir Cae Ffwt, maes chwarae, Clwb Pêl Droed Glan Conwy. HanesYn 2017 cynigwyd adeilad, nad oedd ei angen mwyach, gan Glwb pêl-droed Rhuthun [1], i'r sawl oedd yn fodlon ei dderbyn. Wedi arolwg gan swyddogion clwb Llansanffraid Glan Conwy, penderfynwyd bod modd symud yr adeilad a'i droi yn far ar gyfer y maes pêl-droed leol. Symudwyd yr adeilad trwy garedigrwydd cwmni lleol Buckleys [2], heb iddynt godi tal am y gwaith Rhoddodd y cwmni adeiladu lleol Cwmni Brenig llawer o wasanaeth rhad i'r prosiect [3] o droi'r adeilad yn dafarn. Agorwyd y Clwb yn swyddogol ar 9 Mai, 2019 gan yr AC leol Janet Finch-Saunders.[4] Mae'r Clwb yn cael ei reoli gan Gwmni Budd Cymdeithasol [5] er mwyn cefnogi chwaraeon, adloniant a gweithgareddau cymdeithasol eraill yn y fro [6]. Cyfeiriadau
Information related to Y Clwb, Llansanffraid Glan Conwy |